Y Darlun Llawn

Mae’r Darlun Llawn yn brosiect aml-gyfrwng sy’n dal lleisiau grŵp o bobl ifanc ac yn rhoi llwyfan iddyn nhw i fynegi materion sy’n bwysig iddyn nhw. Y man cychwyn oedd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Gynulliad Ieuenctid Sir Benfro yn 2014, a oedd â’r bwriad o adnabod materion oedd yn effeithio ar bobl ifanc yn Sir Benfro.

Dechreuodd y prosiect gyda 3 gweithdy collage a phaentio hanner diwrnod, a hwyluswyd gan Pip Lewis ym Mhrosiect Ieuenctid a Chymuned y Garth. Darparodd y sesiynau hyn gyfleoedd i arbrofi gyda thechnegau collage a phaentio i greu gwaith celf ar gyfer ail gam y prosiect. Yn y ddwy sesiwn olaf, a hwyluswyd gan Sharron Harris, defnyddiwyd tafluniad a sain i ddod â’r delweddau yn fyw.

Y canlyniad terfynol yw ffilm fer yn cynnwys y delweddau collage gwreiddiol a delweddau o’r cyfranogwyr a recordiadau o’u lleisiau, yn rhoi sylwadau ar wasanaethau lleol a’u profiad o’u defnyddio.

Mae’r bobl ifanc yn tynnu sylw at yr angen:

  • i’w lleisiau cael eu clywed gan ddarparwyr gwasanaethau cymunedol a’r hyn y maen nhw’n ei ddisgwyl gan wasanaethau cymunedol lleol
  • am wasanaethau cymunedol i fod yn gyson ac yn ddibynadwy

am wasanaethau cyhoeddus i barchu pobl ifanc a’r hyn mae hynny’n ei olygu yn ymarferol