Delwedd: Print sgrîn – prosiect “Heddwch” gydag Achub y Plant 2015
Amdanom ni
Sefydlwyd spacetocreate yn 2007 gan Pip Lewis a Guy Norman i wella mynediad ac ehangu cyfranogiad yn y celfyddydau gweledol yn Sir Benfro, yn bennaf.
O dan arweiniad creadigol ei sylfaenwyr, mae spacetocreate yn cydweithio ag artistiaid a cherddorion, gwneuthurwyr ffilmiau a ffotograffwyr, dylunwyr ac animeiddwyr, athrawon, gweithwyr ieuenctid, penseiri a beirdd, i ddylunio, cyflwyno a chynhyrchu prosiectau penodol a rhaglenni tymor hwy, sy’n cyfrannu at les unigolion a chymunedau. Gallwch ddysgu mwy amdanom ni a’r bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw yma.
Dros y deng mlynedd diwethaf, rydym wedi creu enw da am brosiectau cyfranogol o ansawdd uchel a dychmygus sy’n cysylltu pobl o bob oed a gallu gyda’r celfyddydau gweledol. Rydym yn canolbwyntio ar weithio gyda phobl nad ydynt fel arfer yn cael cyfleoedd i gymryd rhan yn y Celfyddydau, gan gynnwys plant, pobl ifanc a grwpiau sy’n agored i niwed neu sy’n anodd eu cyrraedd yn y gymuned.
Mae ein gwaith yn dod â phobl at ei gilydd, ac yn annog cydraddoldeb a pherthyn trwy brofiad cyffredin o gyfranogiad yn ogystal â darparu cyfleoedd i roi cynnig ar brofiadau newydd, dysgu sgiliau newydd, archwilio’r broses greadigol a meithrin hyder a hunan-barch.
Mae Hwlffordd wedi darparu ffocws daearyddol cryf ar gyfer ein gwaith diweddar, trwy arweiniad creadigol Cydlifiad, partneriaeth gelfyddydol ac adfywio tair blynedd a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy’r rhaglen Syniadau: Pobl: Lleoedd.
Mae ein gwaith diweddar arall yn cynnwys: Y Darlun Mawr Plas Llanelly – prosiect treftadaeth tair blynedd wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri lle rydym yn gweithio gyda grwpiau o blant a phobl ifanc i archwilio hunaniaeth a’r synnwyr o le, a Straeon Gwefreiddiol – prosiect partneriaeth pedair blynedd wedi’i ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr i gryfhau llais grwpiau amrywiol o bobl yn Sir Benfro.
Gallwch weld ein holl waith diweddar ar y dudalen prosiectau a gallwch weld archif o waith y gorffennol ar ein hen safle yma.
Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy neu i archwilio sut y gallwn weithio gyda chi.