Nid oes dim fel y mae’n ymddangos
Prosiect ffilm yw Nid oes dim fel y mae’n ymddangos sy’n dogfennu profiadau a safbwyntiau amrywiol pobl sydd ag Anafiadau Pen.
Fe wnaeth y prosiect ddarparu llwyfan i’r cyfranogwyr i rannu eu straeon yn unigol ac fel grŵp a’r bwriad yw:
- codi ymwybyddiaeth o’r grŵp Headway Sir Benfro
- tynnu sylw at y diffyg cymorth arbenigol yn Sir Benfro
- cynyddu’r ddealltwriaeth o anafiadau pen ymhlith y cyhoedd a darparwyr gwasanaethau yn Sir Benfro
Cynhaliwyd gwaith cynllunio a sesiynau ffilmio yn ystod hydref 2016 ac mae’r deunydd a gasglwyd wedi’i roi at ei gilydd i greu ffilm fer sy’n edrych ar y materion pwysicaf i’r grŵp, gan gynnwys:
- Beth yw anaf i’r ymennydd?
- Triniaeth a chymorth
- Yr effaith ar deulu a ffrindiau
- Byw gyda rhywun sydd ag anaf i’r ymennydd
- Canfyddiadau pobl eraill
- Mynediad at gymorth arbenigol
- Effeithiau ariannol
- Gwerth y grŵp – ‘y peth agosaf i normal’
Gallwch wylio’r ffilm isod
Wrth wneud y ffilm hon cafodd dwy ffilm arall eu creu, un yn cynnig safbwynt teuluol unigryw ar y profiad o fyw gydag anaf i’r ymennydd, a’r llall yn darparu llwyfan pwerus i farn gofalwr.
Mae Bywyd ar ôl anaf i’r ymennydd: Stori Teulu yn rhoi lle i Anthony, Helen a’u plant i fyfyrio ar eu profiadau o anaf i’r ymennydd Anthony a sut mae hynny wedi effeithio ar eu bywydau.
Mae Bywyd ar ôl anaf i’r ymennydd: Stori Gofalwr, “yn rhoi cipolwg da ar rai o’r pethau y mae gofalwyr anaf i’r ymennydd yn eu hwynebu.”
Gallwch ddysgu mwy am grŵp cymorth Headway Sir Benfro yma
English
