Cyrraedd Yno
Mae cyrraedd yno yn defnyddio recordiadau sain ac animeiddiad i rannu profiadau pobl anabl o ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth yn Sir Benfro.
Gan weithio’n agos â Grŵp Llywio Trafnidiaeth Sir Benfro, bwriad y prosiect oedd creu cyfres o ffilmiau animeiddiedig byr i’w defnyddio fel adnoddau hyfforddi ac ymgyrchu.
Cyn i’r prosiect ddechrau, bu Gill Dowsett yn gweithio gyda thri grŵp gwahanol o bobl anabl gan ddefnyddio technegau Theatr Fforwm i archwilio eu profiadau o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Benfro.
Defnyddiwyd eu straeon i lywio a siapio deunyddiau ar gyfer dau weithdy recordio sain ac animeiddiad, lle bu cynrychiolwyr o’r tri grŵp yn gweithio gyda Curious Ostrich a Spacetocreate i greu 3 ffilm fer. Y grwpiau wnaeth gymryd rhan oedd: Lleisiau Ifanc dros Newid, Pobl yn Gyntaf Sir Benfro, Grŵp Mynediad Sir Benfro.
Bydd set o 1000 o gardiau post dwyieithog i gyd-fynd â’r ymgyrch yn cael eu dosbarthu i gyfeirio unigolion a sefydliadau at y ffilmiau a’r recordiadau sain, gan arwain at godi ymwybyddiaeth o’r materion trafnidiaeth sy’n wynebu pobl anabl yn Sir Benfro.
Mae pob un o’r ffilmiau’n archwilio gwahanol fath o drafnidiaeth ac mae recordiad sain yn dilyn.
Gellir clywed y recordiadau sain sy’n darparu detholiad o brofiadau pobl anabl o ddefnyddio trenau, tacsis a bysiau ar y wefan straeon gwefreiddiol.