Celf a Lles
Roedd Celf a Lles yn rhaglen beilot o weithdai celfyddydau gweledol yn archwilio hunaniaeth ac ymdeimlad o hunan, gan ddefnyddio ystod o gyfryngau a dysgu sgiliau newydd gan gynnwys:
- Technegau lluniadu a rhannau’r wyneb
- Technegau argraffu mono ac argraffu â sgrîn
- Gweithio mewn 3D gyda Modroc a chlai
Dyluniwyd a chyflwynwyd y rhaglen beilot gan Pip Lewis a Guy Norman o spacetocreate, gan alluogi’r cyfranogwyr i ddysgu sgiliau newydd, meithrin hyder a hunan-barch a mynegi eu hunain yn greadigol. Y tri grŵp a gymerodd ran oedd: MIND Sir Benfro, Pobl yn Gyntaf Sir Benfro a Chlwb Arwyddo a Rhannu Sir Benfro.
Cafodd y prosiect ei gofnodi ar ffilm, gan roi cyfle i’r cyfranogwyr i werthuso a myfyrio ar eu profiad a’r manteision o gymryd rhan. Mae’r ffilm, a chafodd ei chreu gan Sharron Harris o Curious Ostrich, yn adnodd y gellir ei ddefnyddio i lunio dyluniad gwasanaeth celfyddydol a lles posibl yn y dyfodol.
Mae’r ffilm yn ystyried tri chwestiwn:
- Beth yw manteision cynhenid creadigrwydd?
- Sut all y celfyddydau gyfrannu at les?
- Beth yw’r pethau allweddol i’w hystyried wrth ddatblygu gwasanaeth celfyddydol a lles yn y dyfodol?
Cynhaliwyd arddangosfa o waith a sgriniad o’r ffilm yn Hwlffordd ar 8 Rhagfyr 2017 gydag anerchiad gan Eluned Morgan AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gelfyddydau ac Iechyd.
Pip Lewis yn croesawu pawb i’r digwyddiad lansio, cyflwynodd y prosiect peilot, ac yn dilyn hynny cafwyd y sgriniad gyhoeddus gyntaf o’r ffilm Celfyddyd Lles.
Rhannodd cyfranogwyr o Pobl yn Gyntaf Sir Benfro a’r clwb Arwyddo a Rhannu eu profiadau personol o fanteision cymryd rhan yn y prosiect peilot.
Daeth Eluned Morgan AC â’r digwyddiad i ben, gan roi persbectif ehangach ar waith y Grŵp Trawsbleidiol ar Gelfyddydau ac Iechyd yng Nghymru, a’r ymchwil ddiweddaraf i fanteision y celfyddydau ar gyfer iechyd a lles fel y dangoswyd yn yr adroddiad diweddar gan grŵp Seneddol Hollbleidiol y DU. http://www.artshealthandwellbeing.org.uk/appg-inquiry/
Mae cynlluniau’n cael eu gwneud i fynd â’r arddangosfa Celfyddyd Lles i’r Senedd yn 2018.
Mae’r ddelwedd sydd wedi’i chynnwys a’r orielau eraill yn dangos detholiad o waith a gynhyrchwyd yn y gweithdai a ffotograffau o’r digwyddiad lansio.