Y Caswir

Mae’r Caswir yn brosiect amlgyfrwng sy’n codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd a’r cymorth sydd ar gael yn Sir Benfro.

Gweithiodd spacetocreate gyda Chymdeithas Gofal Sir Benfro trwy’r prosiect Sir Benfro yn Gweithredu dros y Digartref (PATH), i recriwtio pobl o Sir Benfro, i rannu eu profiadau o fod yn ddigartref a’r cymorth a gawsant.

Mewn cyfres o gyfweliadau 1-1 cofnodwyd y profiadau o ddigartrefedd ac fe’u golygwyd i greu pedair seinwedd sy’n edrych ar wahanol agweddau ar brofiad pobl, o ddod yn ddigartref i’r help a’r cyngor sydd wedi helpu pob unigolyn i symud ymlaen.

Yn rhedeg ochr yn ochr â hyn, bu grŵp o bobl ifanc sydd â diddordeb mewn digartrefedd, ac sy’n rhan o brosiect hir dymor gyda PATH, yn gweithio gydag artistiaid o spacecocreate i ddatblygu deunyddiau ar gyfer posteri a deunyddiau ymgyrchu eraill y gellir eu defnyddio mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid o gwmpas y sir.

Delwedd: Un o gyfres o bedair a grëwyd ar gyfer ymgyrch mewn ysgolion a chymunedau i godi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd a’r cymorth sydd ar gael yn Sir Benfro. Mae’r codau QR ar y posteri a’r cardiau post yn cysylltu â’r seinweddau.

Gallwch wrando ar y gyfres o seinweddau ar y wefan straeon gwefreiddiol.

SaveSave