Take 5
Mae Take 5 yn brosiect amlgyfrwng sy’n anelu at ddal profiadau a safbwyntiau amrywiol pobl ag awtistiaeth, gan ddefnyddio hyn fel man cychwyn i godi ymwybyddiaeth ac i gynyddu dealltwriaeth o Awtistiaeth ymhlith y cyhoedd a darparwyr gwasanaethau yn Sir Benfro.
Rhoddodd y prosiect lwyfan i’r 5 cyfranogwr, sydd i gyd yn aelodau o grŵp ymgyrchu Pobl yn Gyntaf Sir Benfro, i rannu mater penodol o’u persbectif eu hunain, gan gynnwys:
- Mynediad at wasanaethau iechyd cyffredinol
- Addysg
- Budd-daliadau a’r adolygiad PIP
- Darpariaeth gwaith cymdeithasol
- Creadigrwydd a diddordebau
Ffilmiwyd y cyfranogwyr gan ddefnyddio sgrin werdd. Cafodd pob sgwrs ei darlunio gyda chefndir animeiddiedig, wedi’i greu gan aelodau’r grŵp.
Mae’r ffilm i’w gweld isod.