Straeon Gwefreiddiol
Roedd Straeon Gwefreiddiol yn brosiect ar y cyd â Curious ostrich, cwmni fideo dogfennol addysgol a chymunedol. Roedd y prosiect yn cynnwys gweithio gyda chelfyddydau gweledol a chyfryngau digidol, i adrodd straeon y gellid eu defnyddio i lunio’r gwaith o gynllunio a chyflwyno gwasanaethau yn Sir Benfro.
Bob blwyddyn, canolbwyntiodd y prosiect ar weithio gyda gwahanol grwpiau: pobl hŷn, pobl ifanc, pobl sy’n byw gyda chyflyrau niwrolegol a phobl anabl. Dros bedair blynedd (2013-17) a phortffolio o 16 o brosiectau, cymerodd dros 120 o bobl ran.
Mae’r portffolio yn cynnwys recordiadau sain, ffotograffau, gwaith celf cyhoeddus, straeon digidol, ffilmiau dogfen ac animeiddiadau. Mae’r holl adnoddau hyn yn rhad ac am ddim i’w defnyddio a’u lawrlwytho o dan drwydded Eiddo Creadigol Cyffredin (Creative Commons) ac maent wedi’u harchifo ar y wefan straeon gwefreiddiol yma
Mae’r prosiectau hefyd wedi’u casglu ynghyd ar ein prif wefan a gellir eu gweld trwy ddefnyddio’r hidlydd Straeon Gwefreiddiol ar y dudalen brosiectau.