Sioe Gysgodion

Darparodd Sioe Gysgodion lwyfan i wirfoddolwyr y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol (RVS) i rannu eu profiadau o weithio gyda phobl hŷn yn Sir Benfro.

Yn ystod sesiwn gweithdy creadigol a hwyluswyd gan spacetocreate ym mis Ionawr 2014, dyluniodd grŵp o 7 o wirfoddolwyr set o bypedau cysgod a sgriptio dwy stori fer am wahanol agweddau ar eu gwaith.

Cafodd y broses a’r perfformiadau eu ffilmio a gellir eu gweld yn y ffilm 6 munud isod.

Mae’r stori gyntaf yn archwilio profiad Mrs P, cafodd ei therapi lleferydd ar ôl strôc ei helpu yn fawr gan ymweliadau gan wirfoddolwr o’r RVS a’i chi.

Mae’r ail stori yn dogfennu cyfnod ym mywyd Billy. Wedi byw ar ei ben ei hun a chael ei hun yn yr ysbyty pan gafodd ei gartref ei gondemnio gan yr awdurdodau lleol, cafodd Billy gymorth gan y RVS i ddechrau bywyd newydd yn ogystal ag adfer atgofion o’i fywyd blaenorol.

Gall y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol helpu pobl hŷn i gadw eu hannibyniaeth a pharhau i fod yn rhan o’r gymuned leol. I ddysgu mwy ewch i wefan RVS Sir Benfro yma