Peidiwch byth â rhoi’r gorau iddi
Prosiect Cyfryngau Digidol yw Peidiwch byth â rhoi’r gorau iddi, sy’n archwilio profiadau a safbwyntiau pobl yn Sir Benfro sy’n gwella o Strôc.
Yn ystod gaeaf 2015/16, cwrddodd Guy Norman, Pip Lewis a Tangwen Roberts, o gelfyddydau cymunedol spacetocreate, gydag aelodau o Grŵp Cyfathrebu’r Gymdeithas Strôc, a staff o Ward Strôc Ysbyty Llwynhelyg i ddarparu cyfleoedd i’r cyfranogwyr gofnodi a rhannu eu profiadau.
Casglwyd y deunydd hwn ynghyd i greu Peidiwch byth â rhoi’r gorau iddi, cyhoeddiad sydd ar gael mewn print ac ar-lein, sy’n adrodd hanesion pawb a gymerodd ran.
Nod y cyhoeddiad yw codi ymwybyddiaeth o Strôc ac i helpu i lunio’r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth yn Sir Benfro.
I lawrlwytho’r cyhoeddiad, cliciwch ar y ddolen ganlynol Peidiwch byth â rhoi’r gorau iddi, neu i weld y cylchgrawn gorffenedig ar-lein, cliciwch ar y botwm ‘Darllen Nawr’ isod.
Pan mae cleifion yn gadael ward strôc, dyma yw cychwyn eu gwellhad. I’r nyrsys sydd wedi gofalu amdanynt, dyma ddiwedd eu rôl nhw yn nhaith strôc y claf. Cafodd Thelma, 60 oed, ei strôc hi bum mlynedd yn ôl a chafodd driniaeth yn Ysbyty Llwynhelyg. Yma, yn y recordiad sain wedi’i olygu, mae Thelma’n cael aduniad gydag Emma, nyrs strôc, sydd yn anaml yn cael y cyfle i ddal i fyny â chynnydd ei chleifion.