Gofalu Amdanom Ni

Bwriad Gofalu Amdanom Ni oedd darparu llwyfan i blant a phobl ifanc sy’n gadael gofal i rannu eu profiadau. Fe wnaeth cyfres o sesiynau rhagarweiniol yn hydref 2014 ddarparu cyfleoedd i gasglu straeon a delweddau, a chyflwyno ystod o dechnegau; gan gynnwys recordiadau sain, collage ac animeiddio.

Parhaodd y prosiect ym mis Ionawr 2015 gyda gweithdy animeiddio undydd i greu ffilm fer mewn ymateb i un o recordiadau sain Marley. Yn y ffilm, mae Marley yn trafod tyfu i fyny mewn gofal, bod i mewn ac allan o gartrefi maeth, ac edrych ymlaen at addasu i fyw’n annibynnol.

Cafodd y gyfres o recordiadau sain eu gwneud i drafod datblygiadau yn y gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc mewn gofal yn Sir Benfro. Gallwch wrando ar y rhain ar y wefan straeon gwefreiddiol.