Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Hanes yn ein Dwylo

26th February 2019 at 2:00 pm - 4:30 pm

Free

Gweithdy galw heibio di-dâl, gyda’r artist lleol Pip Lewis, i greu portreadau o’r adeiladau hardd sy’n gwneud Hwlffordd yn lle mor unigryw ac arbennig.

Bydd defnyddio ffotograffau hen a newydd, ochr yn ochr â chymwysiadau digidol fel mapiau Gwgl, technegau darlunio syml,dargopïo a chollage, yn creu darlun unigryw o’r dre wedi’i gweld trwy lygaid y rhai sy’n byw, gweithio a chwarae yma.

Bydd pob person yn creu portread amlhaen o adeilad unigol o’u dewis a gaiff ei arddangos fel rhan o waith celf ar y cyd mewn arddangosfa i gyd-ddigwydd â lansiad ‘Building Stories’ cyhoeddiad newydd gan yr awdur lleol Kerry Steed a greodd The Poetry of Haverfordwest yn ystod wythnos gŵyl 2017.

Yn addas i oed 7+ ac i bob gallu. Darperir y deunyddiau i gyd ond dewch â llechen neu ffôn clyfar os oes gennych chi un.

Rhaid i blant dan 12 fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.

Bydd Hanes yn ein Dwylo yn rhedeg bob prynhawn yn ystod wythnos hanner tymor gyda chefnogaeth gan Gronfa Treftadaeth y Loteri drwy’r Fenter Treftadaeth Treflun.(THI)

 

 

Delwedd nodwedd: Tafarn y Greyhound un o nifer o adeiladau yn y dref sydd wedi’u hadnewyddu’n ddiweddar gyda chymorth y THI.

 

Details

Date:
26th February 2019
Time:
2:00 pm - 4:30 pm
Cost:
Free
Event Category:

Venue

spacetocreate
Haverfordwest, Pembrokeshire SA61 2ET United Kingdom

Organizer

Guy Norman
Email
guy@spacetocreate.org.uk

Leave a Reply